Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi comisiynu Just Fair i baratoi adroddiad cysgod annibynnol ar y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), ar ran cymdeithas sifil yng Nghymru a Lloegr, cyn yr adolygiad nesaf o’r DU gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (CESCR) (‘y prosiect’).
Nod y prosiect yw grymuso a helpu cymdeithas sifil i ddal Llywodraethau Cymru a’r DU i gyfrif am eu rhwymedigaethau o dan ICESCR. Bydd y prosiect yn rhedeg o fis Gorffennaf 2022 i fis Chwefror 2023. Yn benodol, mae’r prosiect yn cynnwys:
- Ymgynghori ag ystod eang o sefydliadau cymdeithas sifil ar dystiolaeth gadarn a pherthnasol, a gwneud argymhellion i hybu a diogelu hawliau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru a Lloegr.
- Cynyddu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a gallu sefydliadau cymdeithas sifil a hynny drwy weminarau a digwyddiadau ar broses adolygu’r ICESCR.
- Drafftio a chyflwyno adroddiad cysgod annibynnol, cywir a chynhwysfawr wedi’i gydlofnodi gan gynghrair o sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid ledled Cymru a Lloegr.
Yn ystod y prosiect, bydd Just Fair yn casglu gwybodaeth gan sefydliadau cymdeithas sifil ac yn cynnal amryw o ddigwyddiadau.
Cais am dystiolaeth ysgrifenedig
Rydym yn gofyn i grwpiau gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ni ei chynnwys yn yr adroddiad hwn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 5pm ddydd Llun 26 Medi. Am fwy o fanylion, beth i’w gynnwys, a sut byddwn yn defnyddio eich tystiolaeth, darllenwch ein dogfen ‘Cais am Dystiolaeth’.
Sesiynau Cymorth Ysgrifennu
Gwyddwn na fydd pawb wedi cymryd rhan mewn gwaith tebyg o’r blaen o bosib, neu y bydd rhai’n dymuno mireinio eu sgiliau. Felly, byddwn yn cynnal sesiynau ‘galw heibio’ ar-lein i helpu pobl i gyflwyno tystiolaeth i ni. Nid oes angen gwybodaeth na phrofiad blaenorol – mae croeso cynnes i bawb.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, dilynwch y dolenni isod:
Gweminarau Meithrin Gallu’r ICESCR
Ymunwch â ni am weithdai ar-lein rhyngweithiol i sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sy’n dymuno dysgu mwy am broses adolygu Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (CESCR), a sut gallwch gryfhau eich gwaith ymgyrchu eich hunain drwy gymryd rhan. Yn ystod y sesiynau 90 munud hyn bydd gennych gyfle i rannu gwybodaeth am eich gwaith eich hun ac i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr arbenigol. Mae amryw o ddyddiadau ar gael. Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o fanylion ac i archebu eich lle.
I grwpiau yng Nghymru
I grwpiau yn Lloegr
Adnoddau defnyddiol
- Dogfen Esbonio: What are economic and social rights and how are these rights monitored in international law?
- Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
- Fersiwn ‘Cymreag plaen’ o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
- Adroddiad Gwladwriaeth sy’n Barti y DU 2022
- Trosolwg o Adroddiad Gwladwriaeth sy’n Barti y DU
- Sylwadau Terfynol CESCR y Cenhedloedd Unedig i’r DU 2016
- Taflen awgrymiadau: cyfrannu at adolygiad CESCR
- Gwefan CESCR y Cenhedloedd Unedig
- Gwybodaeth i gyrff anllywodraethol gan CESCR y Cenhedloedd Unedig
- Traciwr Hawliau Dynol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Cyllid ar gyfer y prosiect hwn
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Y Comisiwn yw Corff Cydraddoldeb Cenedlaethol y DU ac mae’n Sefydliad Hawliau Dynol statws A ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’n gweithio i rymuso cymdeithas sifil i ddal y llywodraeth i gyfrif am ei rhwymedigaethau hawliau dynol drwy gefnogi ymgysylltiad â phrosesau adolygu’r cytuniad.

Hysbysiad preifatrwydd
Bydd Just Fair yn prosesu’r data personol sylfaenol sydd eu hangen i’ch galluogi i ymgysylltu â’r gwaith o baratoi adroddiad cysgod annibynnol ar y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) ar ran cymdeithas sifil yng Nghymru a Lloegr. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad cyhoeddedig. Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd llawn yma.